Prosiect newydd sy'n cefnogi ymgysylltiad clwstwr gofal sylfaenol

Samantha Horwill
Medi 17, 2021

Sefydlwyd Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn 2019 ac fe'i gwelir yn flynyddol ar 17 Medi. Amcanion y dydd yw gwella dealltwriaeth fyd-eang o ddiogelwch cleifion, cynyddu ymgysylltiad y cyhoedd â diogelwch gofal iechyd, a hyrwyddo gweithredu byd-eang i atal a lleihau niwed y gellir ei osgoi mewn gofal iechyd.

 

Mae'n ymddangos yn amserol heddiw y gallwn gyhoeddi ein prosiect diweddaraf sy'n galluogi ymgysylltiad Clwstwr Gofal Sylfaenol ar gyfer Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC).

 

Gwahoddwyd Yma i weithio gyda Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) i sefydlu fforwm ymgysylltu clwstwr gofal sylfaenol. Yn ystod y 12 mis nesaf, byddwn yn profi sut y gall y math hwn o ymgysylltu roi cyngor ar sut i lanio canllawiau newydd yn dda, gan roi sylw i sut mae pynciau'n cysylltu â'r hyn sy'n bwysig i'r bobl sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol. Bydd hefyd yn lle i roi adborth ar sut mae gweithredu canllawiau newydd wedi datblygu ym maes gofal sylfaenol; ac i dynnu sylw at gwestiynau a phynciau posibl i'w hystyried yn y dyfodol.

 

Dywed Kath Haines, Pennaeth Uned Cymorth Rhagnodi Dadansoddol Cymru (WAPSU) yn AWTTC "Mae'r AWMSG a'r AWTTC wedi ymrwymo i wella ymgysylltiad â chlinigwyr GIG Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ag Yma i ddatblygu canllawiau rhagnodi ac offer ymarferol mewn cynghrair ag ymarferwyr cyffredinol sydd â rôl arweiniol rhagnodi, i gefnogi'r gwaith o hyrwyddo arfer gorau ac yn y pen draw i wella diogelwch cleifion yng Nghymru."

 

Rydym yn gyffrous iawn am y bartneriaeth newydd hon ac edrychwn ymlaen at gymryd cam arall tuag at greu'r amodau lle mae gofal sylfaenol yng Nghymru yn ffynnu.

Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2024

Ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Hawliau Gofalwyr, mae Elin, Swyddog Cefnogi Prosiect Yma, yn rhannu ei phrofiadau fel gofalwr ifanc.

Darllen y stori cyflawn

Yma yn Wythnos Meddygaeth Ffordd o Fyw (18-24 Mai 2024)

Diweddariad ar waith prosiect diweddar Yma yn y gofod meddygaeth ffordd o fyw yng ngoleuni Wythnos Meddygaeth Ffordd o Fyw 2024.

Darllen y stori cyflawn

Myfyrdodau ar Dementia

Mae'r Swyddog Cymorth Prosiect Ewan Lawry yn myfyrio ar ei waith ym gwerthusiad Yma o Wasanaeth Dementia Gorllewin Morgannwg Marie Curie yng ngoleuni ei brofiadau personol gydag aelod o'r teulu â dementia.

Darllen y stori cyflawn
Rydyn ni yma i chi
Os oes gennych chi unrhyw syniadau ar sut y gallwn gyflawni ein nodau o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu os hoffech gymryd rhan, byddem wrth ein boddau'n clywed gennych.
Cysylltwch â ni