Sicrhaodd Yma gyllid SMART FIS Lefel 1 gan Lywodraeth Cymru i beilota hybiau lles cymunedol integredig mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Chlwstwr Gofal Sylfaenol De-orllewin Caerdydd.
Fe wnaeth meddygon teulu ddarparu ymyriadau meddygaeth ffordd o fyw i bobl a gafodd ddiagnosis diweddar o ddiabetes Math II yng Nghlwb Pêl-droed Ely Rangers. Cynlluniwyd yr ymyriadau i alluogi hunanreolaeth barhaus effeithiol a gwelliant mewn iechyd, a welwyd dros gyfnod y prosiect o 10 wythnos.
Mae Yma nawr yn datblygu syniad ar gyfer prosiect ar raddfa fwy mewn cymunedau ymylol.